Gwasanaeth Cymorth ar ôl Gwerthu
Mae'r gweithdy sy'n cynnwys yr holl offer angenrheidiol yn gallu delio â chynhyrchion diesel, petrol a thrydan ac mae'n cynnig gwasanaeth miniogi cadwyni. I beiriannau mawr, rydym yn cynnig gwasanaeth casglu a dychwelyd ac yn gwneud gwaith trwsio ar y safle ar gyfer problemau llai. Ar gyfer cynhyrchion Kubota, rydym yn delio â Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion o'n safle yma yng Nghaerfyrddin, ar gyfer brandiau eraill, rydym yn delio â Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn unig ac mae'n busnes cyswllt, Gwasanaethau Gardd A M yn delio â Cheredigion.
Mae gan yr adran partiau gysylltiadau uniongyrchol gyda warysau partiau ein cyflenwyr ac ym mwyafrif yr achosion brys, gellir cael partiau y diwrnod wedyn. Rydym yn cadw ystod dda o bartiau sy'n symud yn gyflym a phartiau sy'n treulio. A fyddech gystal â sicrhau eich bod yn nodi gwneuthuriad, model a rhif cyfresol eich peiriant cyn gofyn am unrhyw bart sbâr. Bydd hyn yn arbed amser ac yn sicrhau eich bod yn cael y part sbâr cywir ar gyfer eich peiriant.
Rydym yn gwasanaethu'r hyn a werthwn - er 1975, mae'n cwsmeriaid wedi gallu dibynnu arnom
.