Gwybodaeth ynghylch Defnyddio'r Wefan
Mae'n bwysig bod pob un sy'n defnyddio'r Rhyngrwyd, beth bynnag fo eu hanabledd neu anghenion arbennig, yn gallu defnyddio'n safle. Gellir gweld gwybodaeth ynghylch sut y gall pobl sy'n dioddef gwahanol anableddau fanteisio ar y we, yn yr erthygl "How People with Disabilities use the Web" a "Understanding Web Accessibility". Mae AM Garden yn cefnogi Campaign for Good Web Design RNIB hefyd.
Gall unrhyw ddyfais neu feddalwedd sy'n gallu dangos cynnwys ar y We, fanteisio ar wybodaeth yn y wefan hon, gan gynnwys porwyr testun yn unig, porwyr clywedol, meddalwedd darllen sgrîn a meddalwedd chwyddo sgrîn. Bydd nifer bach o ymwelwyr â'r safle sy'n defnyddio porwyr hen a phorwyr nad ydynt yn cydymffurfio â safonau, yn sylwi ar y ffaith na cheir cymaint o elfennau gweledol yng nghynllun y safle. Er y bydd pob porwr yn dangos yr holl gynnwys, gallai defnyddio'r porwyr hþn hyn effeithio ar y ffordd y mae'r cynnwys hwn yn ymddangos yn weledol ar y dudalen.
Addasu maint eich testun
Gellir ffurfweddu maint y testun a ddefnyddir ar y safle hwn yn eich porwr. Gallai'r nodwedd hon fod yn ddefnyddiol os oes gennych nam ar eich golwg neu os oes gennych fonitor mawr neu fach.
Dalennau Arddull
Mae'r safle hwn yn cynnwys Dalennau Arddull Rhaeadrol, sy'n galluogi defnyddwyr i gwsmereiddio'r tudalennau hyn er mwyn iddynt fod yn addas i'w hanghenion eu hunain gan ddefnyddio'u harddulliau eu hunain. Gallwch newid testun a lliwiau cefndir y safle hwn er mwyn diwallu'ch anghenion. Fel arfer, mae modd gwneud hyn yn newis y porwr neu'r gosodiadau hygyrchedd ond dylech droi at ddewis help eich meddalwedd am unrhyw wybodaeth am hyn.
Bysellau Cyrchu
Nodwedd a ddefnyddir i'w gwneud yn haws defnyddio'r safle yw Bysellau Cyrchu. Mae'r rhain yn fysellau llwybr byr a ddefnyddir i weld rhannau cyffredin neu rannau pwysig o'r safle yn syth. Mae rhestr bresennol y Bysellau Cyrchu ar y safle fel a ganlyn:
Llythyren - 1 - mae'n eich tywys i'r Home Page.
Llythyren - 3 - mae'n eich tywys i'r Contact Us Page.
Llythyren - 4 - mae'n eich tywys i'r Online Catalogue.
Llythyren - 5 - mae'n eich tywys i'r Special Offers.
Llythyren - 6 - mae'n eich tywys i'r My Account
Llythyren - 7 - mae'n eich tywys i'r Order Online
Llythyren - 8 - mae'n eich tywys i'r How to Order Offline
Llythyren - 9 - mae'n eich tywys i'r Terms and Conditions.
Llythyren - 0 - mae'n eich tywys i'r Access key list.
I ddefnyddio'r Bysellau Cyrchu ar eich system, dilynwch y camau hyn oherwydd maent yn amrywio ychydig ar draws porwyr a systemau gweithredu:
- Yn Internet Explorer 6 ar Gyfrifiadur Personol, defnyddiwch Alt a'r Access Key yna Enter.
- Yn Netscape 6 ar Gyfrifiadur Personol, defnyddiwch Alt a'r Access Key i weithredu'r llwybr byr.
- Yn Netscape 6 neu Internet Explorer 5 ar Mac, defnyddiwch Ctrl a'r Access Key.
Trowch at y dewis help ar eich meddalwedd i gael gwybodaeth am lwyfannau eraill.
Tabio
I symud o gyswllt i gyswllt, gellir defnyddio'r fysell Tab i symud o gwmpas y safle heb orfod defnyddio llygoden. Er mwyn ei gwneud yn haws i'w ddefnyddio, cynhwyswyd system mynegai tab rhesymegol ar y wefan er mwyn sicrhau mai dim ond ychydig o weithiau y bydd angen gwasgu tab er mwyn cyrraedd cysylltiadau blaenoriaeth megis cofnod chwilio maes testun.
