Adran Werthu a Gwasanaethu Peiriannau Gardd
Myrddin Garden Machinery Services

Polisi Preifatrwydd

1. Fframwaith Cyfreithiol

Rydym yn ymdrechu bob amser i gydymffurfio'n llawn â deddfwriaeth ganlynol y DU: Rheoliadau Gwerth o Bell 2000, Rheoliadau eFasnach 2002 CE, Deddf Diogelu Data 1998 a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995.

2. Polisi Preifatrwydd

2.1 Mae Myrddin GM wedi ymrwymo i ddiogelu'ch preifatrwydd a sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth bersonol a roddir gennych. Rydym yn cydymffurfio'n llwyr â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data yn y DU.

Diben y datganiad hwn yw esbonio pa wybodaeth bersonol a gesglir gennym a sut y gallwn ei defnyddio.

2.2 Pan fyddwch yn archebu, bydd angen i ni gael gwybod eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a manylion eich cerdyn. Mae hyn yn ein galluogi i brosesu a chyflawni'ch archeb. Gallwch ddewis peidio rhoi gwybodaeth berthnasol nad yw'n angenrheidiol ar gyfer y broses archebu.

2.3 Byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion talu a bilio yn unig.

Dim ond ar ôl cael eich caniatâd chi y byddwn yn cysylltu â chi.

2.4 Nid ydym yn gwerthu, yn rhentu nac yn cyfenwid eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw un arall am resymau masnachol, y tu hwnt i'r gofyniad hanfodol er mwyn dilysu cerdyn credyd/debyd wrth brynu.

2.5 Rydym yn dilyn gweithdrefnau diogelwch llym wrth storio a datgelu gwybodaeth a roddwyd i ni, er mwyn atal mynediad anawdurdodedig ato, yn unol â deddfwriaeth diogelu data y DU.

Ni fyddwn yn casglu gwybodaeth sensitif amdanoch ac eithrio pan fyddwch chi'n ei darparu'n fwriadol. Er mwyn sicrhau cywirdeb ein cronfa ddata, gallwch archwilio, diweddaru neu waredu eich manylion personol trwy gysylltu ag info@comptoncymru.com.

2.6 Er mwyn prosesu trafodion cardiau credyd/debyd, efallai y bydd angen i'r banc neu'r asiantaeth prosesu cardiau ddilysu'ch manylion personol er mwyn sicrhau awdurdodiad y tu allan i EEA (Ardal Economaidd Ewropeaidd). Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i EEA am unrhyw reswm arall.

2.8 Yn gyffredinol, mae'n gwasanaeth yn casglu gwybodaeth ddefnyddiol benodol yn awtomatig, megis nifer ac amlder y rhai sy'n ymweld â'n safleoedd a'u hadrannau, yn debyg i ffigurau gwylio rhaglenni teledu sy'n dweud wrth y rhwydweithiau faint o bobl fu'n gwylio rhaglen benodol. Defnyddir y wybodaeth hon i bennu poblogrwydd tudalennau yn unig ac mae'r data cyfunol hyn yn ein helpu i bennu faint y mae'n cwsmeriaid yn defnyddio rhannau o'r safle, er mwyn i ni allu gwella'n safle neu sicrhau ei fod mor apelgar ag y bo modd i gymaint ohonoch ag y bo modd.

2.7 Os oes gennych unrhyw gwestiynau am breifatrwydd, cysylltwch â ni trwy anfon e-bost at info@comptoncymru.com.

3. Cwcis

Mae Myrddin GM yn defnyddio technoleg o'r enw "cwcis" os ydych yn dymuno cadw'ch dewisiadau cwsmereiddio pan fyddwch yn prynu ar-lein.

4. Diogelu data

4.1 Mae Myrddin GM wedi ymrwymo i ddiogelu'ch preifatrwydd. Nid ydym yn gwerthu, yn masnachu nac yn rhentu eich gwybodaeth bersonol i eraill. Nid ydym yn defnyddio nac yn datgelu gwybodaeth am eich ymweliadau unigol â'n gwefan neu wybodaeth a roddwyd i ni gennych, megis eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost neu'ch rhif ffôn, i unrhyw gwmnïau allanol.

4.2 Dan Ddeddf Diogelu Data 1998 y DU, mae Myrddin GM yn dilyn gweithdrefnau diogelwch llym ynghylch storio a datgelu gwybodaeth a roddwyd i ni gennych, er mwyn atal mynediad anawdurdodedig.

5. Cyfraith lywodraethol

5.1 Llywodraethir yr amodau a'r telerau hyn gan gyfraith Lloegr a dylid eu dehongli yn unol â'r gyfraith honno.

5.2 Bydd unrhyw anghydfod yn destun awdurdodaeth unigryw llysoedd Lloegr.

6. Gwybodaeth Bellach

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau am y datganiadau uchod at Myrddin GM (e-bost: info@comptoncymru.com er mwyn cael eglurhad.

English