Adran Werthu a Gwasanaethu Peiriannau Gardd
Myrddin Garden Machinery Services

Amodau Defnyddio y Wefan

Cyflwyniad

Cyn i chi ddefnyddio'r wefan hon, hoffem dynnu eich sylw at nifer o faterion "cyfreithiol". Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno ymrwymo i'r amodau a thelerau defnyddio a nodir isod yn yr adran hon o'r wefan.

1. Manteisio ar y wefan a'r cynnwys

1.1 Nid yw'r wybodaeth a ddarparir ar y wefan hon yn wahoddiad nac yn argymhelliad i brynu unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir mewn unrhyw ffordd a dylech geisio cyngor annibynnol priodol.

1.2 Bydd Myrddin GM yn ceisio sicrhau y gellir manteisio ar y wefan hon yn barhaus ond gellir atal, cyfyngu neu derfynu mynediad i'r wefan hon ar unrhyw adeg.

1.3 Nid yw Myrddin GM yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau eraill y mae gan y wefan hon gysylltiadau â nhw.

2. Eiddo Deallusol

2.1 Mae hawlfraint y deunydd yn y wefan hon, y gwaith dylunio, y testun a'r gwaith graffig, a'u detholiad a'u trefniant, a'r holl grynoadau meddalwedd, y cod ffynhonnell sylfaenol a'r meddalwedd (gan gynnwys 'applets') yn berchen i Myrddin GM neu ddarparwyr gwybodaeth o'r fath. Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o'r deunydd hwn na'i ailddosbarthu heb ein caniatâd ysgrifenedig ni. Gallwch, fodd bynnag, lawrlwytho neu argraffu un copi er mwyn i chi ei ddarllen all-lein at ddibenion anfasnachol.

2.2 Gallai enwau cwmnïau a chynhyrchion a nodir ar y wefan hon fod yn nodau masnach neu'n nodau masnach cofrestredig eu perchnogion priodol.

3. Eithrio atebolrwydd

3.1 I'r graddau a ganiateir gan gyfraith berthnasol, mae Myrddin GM yn gwadu'r holl warantau a chyflwyniadau (a fynegir neu a awgrymir) ynghylch cywirdeb unrhyw wybodaeth ar y wefan hon. Nid yw Myrddin GM yn gwarantu y bydd y wefan hon yn rhydd o ddiffygion ac ni fydd ychwaith yn atebol am unrhyw gamgymeriadau neu ddeunydd nas cynhwyswyd.

3.2 O ganlyniad i natur trosglwyddo data ar ffurf electronig dros y rhyngrwyd, a nifer y defnyddwyr sy'n postio data ar y wefan hon, caiff unrhyw atebolrwydd gan Myrddin GM ar gyfer unrhyw golledion neu geisiadau sy'n deillio o fethu manteisio ar y wefan hon, neu o unrhyw ddefnydd o'r wefan hon neu ddibyniaeth ar y data a drosglwyddir gan ddefnyddio'r wefan hon, ei eithrio i'r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith. Mewn unrhyw achos, ni fydd Myrddin GM yn atebol am unrhyw golli elw, refeniw, ewyllys da, cyfle, busnes, arbedion disgwyliedig neu golled anuniongyrchol neu ganlyniadol o unrhyw fath mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall sy'n codi o ddefnyddio'r wefan hon, ac eithrio pan na ellir eithrio atebolrwydd o'r fath gan y gyfraith.

3.3 Nid yw Myrddin GM yn rhoi unrhyw warant i chi bod y wefan hon yn rhydd o firysau neu unrhyw beth arall a allai gael effaith niweidiol ar unrhyw dechnoleg.

4. Ymwadiad Cysylltiadau

Darparir yr holl gysylltiadau er hwylustod i'n defnyddwyr. Ni allwn reoli, nid ydym yn gyfrifol ac nid ydym yn gwneud unrhyw gyflwyniadau ynghylch cywirdeb neu unrhyw agwedd arall ar y cynnwys/gwybodaeth a welir neu a ddefnyddir trwy ymweld ag unrhyw wefan arall. Ni ddylid ystyried bod darparu cyswllt â gwefan arall yn gymeradwyaeth uniongyrchol nac awgrymedig gennym ynghylch unrhyw gynnwys/gwybodaeth, cynhyrchion/gwasanaethau a allai fod ar gael i chi, neu thrwy'r safle arall.

5. Cyfraith lywodraethol

5.1 Llywodraethir yr amodau a'r telerau hyn gan gyfraith Lloegr a dylid eu dehongli yn unol â'r gyfraith honno.

5.2 Bydd unrhyw anghydfod yn destun awdurdodaeth unigryw llysoedd Lloegr.

6. Gwybodaeth Bellach

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau am y datganiad uchod at Wasanaeth Rheoli Cwsmeriaid Myrddin GM (e-bost: info@comptoncymru.com er mwyn cael eglurhad.

English